Croeso i’n Canolfan Adfer Natur – archwiliad i’n perthynas â ffermio, bwyd a byd natur yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.

Y Gorffennol (The Past)
Yn y gorffennol, roedd gennym well perthynas â sut roedd ein bwyd yn cael ei ffermio a’r byd naturiol oedd yn rhannu’r lle ag ef. Roeddem yn gwerthfawrogi a pharchu cynnyrch y tir ac yn byw o fewn ein gallu. Roedd llai o bobl ar y Ddaear, a oedd yn golygu llai o bwysau ar systemau naturiol ac roeddem yn rhannu’r tir â natur.
Rydym yn gobeithio dod â hanes ffermio yn fyw gyda’r amgueddfa hon sy’n seiliedig ar atgofion ffermio hynod ddiddorol John Beynon, ddiweddar dad Dr Sarah Beynon. Mae’r atgofion yn manylu ar fywyd ffermio’r teulu Beynon. Rydym hefyd yn cyflwyno gwybodaeth gan yr hanesydd ffermio lleol Edward Perkins a’r ecolegydd lleol Jon Hudson. Mae aelodau y teulu Beynon wedi ffermio yn Sir Benfro ers y 1300au ac rydym wedi crynhoi eu straeon i’n harwain drwy hanes ffermio a bywyd cefn gwlad. Dros y blynyddoedd, mae’r teulu Beynon wedi casglu straeon, arteffactau a thrugareddau. Mae’r reddf o gasglu wedi mynd o un genhedlaeth i’r llall, sy’n golygu bod Sarah wedi etifeddu gwerth amgueddfa o arteffactau. Rydym hefyd yn hynod ffodus i gyflwyno Casgliad Amgueddfa Derwen, casgliad treftadaeth preifat, a gasglwyd dros gyfnod o 30 mlynedd gan Myfanwy ac Ifor Lloyd o fridfa Cobiau Cymreig enwog Derwen. Felly rydym yn eich gwahodd i ymgolli mewn ystod o amser a fu gyda’r thema ‘hanes ffermio a bywyd yn Sir Benfro’.
Y Dyfodol (The Future)
Rydym yn cynnig sawl dyfodol i chi. Ydych chi am ddyfodol lle rydym yn anwybyddu pob dim ac yn parhau fel pe na bai dim byd o’i le, neu a ydych am helpu i greu dyfodol gwell?
Rydyn am roi syniadau ac ysbrydoliaeth i chi i gefnogi dyfodol gwell – dyfodol lle mae bodau dynol a natur yn byw ochr yn ochr gyda’i gilydd; lle mae ffermwyr yn cael eu talu’n deg am gynhyrchu bwyd llawn maeth, bod y tiroedd yn cael eu ffermio gyda chyn lleied o gemegau artiffisial â phosibl, a bod anifeiliaid yn byw bywydau naturiol yn ddi-straen.
P’un a ydych yn ffermwr neu’n arddwr, yn byw mewn dinas neu yng nghefn gwlad, rydym yn gobeithio rhoi llawer o syniadau clir a syml i chi i’ch helpu i wneud eich rhan i gefnogi ffermio cynaliadwy a helpu byd natur i adfer, tra’n arddangos prosiectau adfer byd natur ar waith.
Ddim yn hoffi darllen byrddau dehongli?
Os nad ydych chi’n un sy’n hoffi darllen byrddau dehongli, peidiwch â chynhyrfu! Rydym wedi cynnwys llawer o wybodaeth i’r rhai sy’n hoffi darllen a llai o benawdau a deunydd ‘geiriog’ ar gyfer y rhai nad ydynt yn hoffi darllen. Ymwelwch nawr ac yn y man – darllenwch yr adrannau sydd o ddiddordeb i chi, edrychwch ar yr hynodion a gweld beth allwch chi ei wneud yn eich bywyd bob dydd i helpu byd natur.
Pa Lwybr i’w Ddilyn?
Rydym yn awgrymu eich bod yn cerdded o amgylch y Ganolfan Adfer Natur yn null cloc, a symud drwy’r adrannau ‘Gorffennol’, ‘Presennol’ a ‘Dyfodol’, oherwydd fel hyn, bydd yr arddangosfa gyfan yn gwneud synnwyr. Gwnewch eich addewid i adfer byd natur cyn i chi adael.
Ydych Chi Am Archwilio Yn Gymraeg?
Os byddai’n well gennych ddarllen yr wybodaeth yn Gymraeg, sganiwch y cod QR wrth ymyl pob bwrdd i fynd â chi i fersiwn Gymraeg y testun.
Intensive pig farming / Ffermio dwys (moch)
Y Presennol (The Present)
Dydyn ni ddim am esgus a dweud bod popeth yn iawn – mae’r byd mewn tipyn o lanast ar hyn o bryd. Rydym yng nghanol Argyfwng Hinsawdd ac Argyfwng Bioamrywiaeth, y ddau yn cael eu gyrru gan fodau dynol. Nid yw un rhywogaeth erioed o’r blaen wedi effeithio ar y byd hwn i’r graddau yr ydym yn ei wneud heddiw. Rydym yn byw y tu allan i’n modd ac, os ydym yn parhau i ffermio, bwyta a gwastraffu fel yr ydym heddiw, byddwn angen tair planed i gynhyrchu ein bwyd erbyn 2050.
Rydym yn cyflwyno’r ffeithiau i ddangos pa mor ddrwg fydd y sefyllfa os byddwn yn dewis peidio â gweithredu.
Chwiliwch am Doug, Chwilen y Dom, am gwestiynau i’w gofyn i ymwelwyr iau i danio eu dychymyg a’u helpu i archwilio’r Ganolfan Adfer Natur.
Cefnogwyd y Ganolfan Adfer Natur gan brosiect Y Gronfa Rhwydweithiau Natur, a ddarperir gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.